Treuliais prynhawn da iawn heddi yng nghwmni Siân a Rhodri ar raglen Prynhawn Da i siarad am fod yn figan.
Cyfle i esbonio beth mae pobl yn gallu bwyta wrth ddilyn y ffordd o fyw yma a phrofi bod figaniaid yn gallu mwynhau pethau fel bisgedi a siocled fel rhan o ddeiet gytbwys.
Rwy di cael hen ddigon o’r nonsens ‘clean eating’ – nid dim ond chia seeds a kale sydd ar y fwydlen ac i ddangos hynny, pobais teisen ar gyfer yr achlysur.
Rhaid cyfaddef bod y deisen hon yn weddol iachus gan does braidd dim siwgr ynddi ac oherwydd fy mod i di defnyddio almwn mâl yn lle blawd mae’n gluten-free hefyd. Rwy’n ceisio defnyddio ffrwythau a llysiau tymhorol os gallai gan eu bod yn flasu llawer neisach. Rwy’n llawn cyffro bod rhiwbob nawr ar gael – mae’n binc ac yn berffaith.
Mae ganddo flas eithai siarp felly rwy di uno gyda afalau (defnyddiais y fath Cox) a sudd masarn. Nid yw’n deisen gor felus felly fydd angen i’r rhai sydd â dant melys ychwanegu banana arall neu rhagor o sudd masarn.
Os na gallwch ddod o hyd i rhiwbob ffres yn y siopau gallwch ddefnyddio’r peth sy’n dod mewn tun.
Teisen rhiwbob ac afal
Cynhwysion
I’r rhiwbob
200g rhiwbob
3 llwy de siwgr
1 llwy de powdr sinamon
1 llwy de powdr sinsir
I weddill y deisen
200g almwn mâl
2 llwy de powdr pobi
½ llwy de soda pobi
3 afal bach wedi’u gratio
150ml llaeth almwn
1 banana wedi’i stwnshio
4 llwy fwrdd o maple syrup
1 llwy de sinamon
1 llwy de powdr sinsir
Dull
Torrwch y rhiwbarb mewn i ddarnau bach a mud-ferwch ar dymheredd isel gyda bach o ddŵr, y siwgr, sinisr a sinamon am 5 munud. Rhidyllwch y rhiwbarb a gadewch i oeri.
Cynheswch y ffwrn i 170C (gas mark 3). Rhidyllwch y powdr pobi a’r soda pobi mewn i bowlen fawr a chymysgwch gyda’r almwnau mâl.
Mewn powlen gwahanol, gratiwch yr afal, yna ychwanegwch y banana wedi’i stwnshio, y llaeth almwn, y rhwbob a gweddill y sbeisys.
Yn y bowlen sy’n cynnwys y cynhwysion sych, gwnewch dwll yn y canol, arllwyswch y cymysgedd gwlyb i fewn a chymysgwch yn dda. Irwch tun 8×8 modfedd gyda bach o olew ac arllwyswch y cymysgedd i fewn gan wneud yn siwr i daenu yn wastad.
Rhowch y tun ar silff uchaf y ffwrn a choginiwch am 50-55 munud. Gadewch i oeri am 15-20 munud a mwynhewch!